Chwefror 2007
English:
Cymraeg:
Tan 3 Chwefror - Arddangosfa Helfa Gelf yn Llyfrgell Llandudno,
Mostyn Street 3 a 4 Chwefror - Teithiau Cerdded wedi’u harwain -
Gwarchodfa Natur RSPB Conwy o 10am ymlaen. Ffôn (01492) 584091
10 a 11 Chwefror - Arddangosiad Optegol - Gwarchodfa Natur RSPB
Conwy 10am - 5pm. Ffôn: (01492) 584091
Tan 11 Chwefror - Arddangosfa RCA Ivor Davies - yn yr Academi
Frenhinol Gymreig, Crown Lane, Conwy. Arddangosfa syfrdanol ac unigryw
o baentiadau gan un o arlunwyr amlycaf Cymru, yn archwilio hanes swynol
mawrion gorffennol Cymru. Ffôn: (01492) 593413
11 Chwefror - Ras 10K Nick Beer - Ras 10 cilomedr o gwmpas y
Gogarth gan gychwyn o Bier Llandudno am 12 canol dydd a gorffen gyferbyn
â Venue Cymru. Bydd tua 500 yn cymryd rhan. Rhaid i bob cystadleuydd
fod yn 15 oed neu fwy. Tâl: £9 i aelodau; eraill: £10.
Ffôn: 07967 119601
14 Chwefror - Tocio’r Coed - Teneuo coed onnen gydag offer
tocio er mwyn iddynt gael mwy o le i dyfu, yng Ngwarchodfa Natur Leol
Bryn Euryn. Gwisgwch ddillad gweithio ac esgidiau cryf. Dewch â
chinio gyda chi. Cwrdd: 9.30am, maes parcio Bryn Euryn, oddi ar Tan y
Bryn Road, Llandrillo-yn-Rhos (SH 833 802). Parhad: Uchafswm o 6 1/2 awr.
Ffôn: (01492) 575200 (yn ystod oriau swyddfa)
20 Chwefror - Cofnodi Planhigion yng Ngogledd Cymru - Lansio
rhestr wirio newydd ar gyfer planhigion Sir Ddinbych gan Dr Jean Green
yng Nghanolfan Gadwraeth Natur Pensychnant, Conwy o 7.30pm. Sgwrs a lluniaeth
ysgafn i ddilyn. Ffôn: (01492) 592595
20 Chwefror - Rownd Derfynol Cogydd Ifanc Cymru - yng Ngholeg
Llandrillo Cymru, Llandrillo-yn-Rhos rhwng 9am a 1pm. Ffôn: (01492)
546666 am fanylion
20 - 22 Chwefror - Pencampwriaethau Coginio Cenedlaethol Cymru
- Gyda dros 50 o ddosbarthiadau a stondinau masnach. Ar agor i’r
cyhoedd bob dydd. Yng Ngholeg Llandrillo Cymru, Llandrillo-yn-Rhos. Ffôn:
(01492) 546666 am fanylion
20 - 22 Chwefror - Battle for the Dragon - Gyda Thimau Coginio
Cenedlaethol Cymru, Canada a Chyprus. Yng Ngholeg Llandrillo Cymru, Llandrillo-yn-Rhos.
Ffôn: (01492) 546666
21 Chwefror - Hwyl i’r Teulu o gwmpas Llangernyw - Mae’n
hanner tymor! Bore o weithgareddau a thaith fer ar gyfer y plant i lunio
map a dysgu am y Côd Cefn Gwlad a bywyd gwyllt yr ardal. Rhaid i
bob plentyn fod dan ofal oedolyn ac mae’n rhaid archebu lle ymlaen
llaw. Gwisgwch ddillad ac esgidiau addas a dewch â bwyd efo chi.
Ffôn: (01492) 575290 (yn ystod oriau swyddfa)
24 Chwefror - Digwyddiad i’r Teulu - Yng Ngwarchodfa Natur
RSPB Conwy rhwng 2pm a 4pm. Ffôn: (01492) 584091
24 Chwefror - 4 Mawrth - Wythnos Gwyl Dewi Sant - Wythnos o ddathlu
gan gynnwys Cyngerdd Dydd Gwyl Dewi, Gymanfa Ganu, Noson Lawen, sesiynau
galw heibio yn yr iaith Gymraeg, chwaraeon, crefftau, a chelf yn ac o
gwmpas Bae Colwyn. Ffôn: (01492) 536000
Dydd Sadwrn olaf pob mis - Cerdded Trwy Hanes - Taith gerdded
ar dir gwastad o amgylch Llanrwst, yn para tua 2
awr ac yn cyflwyno hanes y dref, wedyn bydd lluniaeth yn yr Elusendai.
Croeso i gwn a phlant. Cyfarfod yn Amgueddfa Elusendy Llanrwst, Tan yr
Eglwys, Llanrwst am 12.30pm. £3 yr unigolyn. Ffôn: (01492)
642550
Am wybodaeth ar beth sy’n digwydd yn y theatr a’r sinema
cysylltwch â’r lleoliadau’n uniongyrchol:
Venue Cymru, Llandudno Ffôn: (01492) 872000 www.venuecymru.co.uk
Theatr Colwyn, Bae Colwyn Ffôn: (01492) 532668 www.theatrcolwyn.co.uk
Cineworld, Cyffordd Llandudno Ffôn: 0871 220 8000 www.cineworld.co.uk
