Rhagfyr 2006
Tan 27 Ionawr 2007 - Arddangosfa: Arthur Bispo do Rosario - yn
Oriel Mostyn, Vaughan Street, Llandudno. Am 50 mlynedd bu Bispo do Rosario
yn obsesiynol greu’r gwrthrychau roedd o’r farn eu bod o werth
eu cadw at Ddydd y Farn. Mae’r casgliad anhygoel hwn o faneri, siacedi,
cerfluniau a chydosodiadau, bellach yn rhan o dreftadaeth genedlaethol
Brasil. Ffôn: (01492) 879201
Bob dydd Iau tan 21 Rhagfyr - Christmas Cracker Family Variety
Show - rhywbeth at ddant pawb yn Neuadd y Dref Llandudno am 2pm. Tocynnau
ar gael o Neuadd y Dref neu Ganolfan Croeso Llandrillo-yn-Rhos. Ffôn:
07968 957177
2 Rhagfyr - Gorymdaith Hud y Nadolig 2006 - Gorymdaith fawreddog
draddodiadol y Nadolig, sy’n cael ei drefnu gan Gyngor Tref Llandudno,
ynghyd â thrên tir a seremoni goleuo’r goleuadau Nadolig
yn Neuadd y Dref Llandudno. Bydd yr orymdaith yn dechrau o Orsaf Trenau
Llandudno am 4pm
2 Rhagfyr - Cerddoriaeth y Nadolig - Cyngerdd yn Eglwys Sant
Paul, Rhiw Road, Bae Colwyn. 7.30pm. Tocynnau £10 i oedolion, £5
i blant
2 a 3 Rhagfyr - Teithiau Cerdded wedi’u harwain - Gwarchodfa
Natur RSPB Conwy o 10am ymlaen. Ffôn (01492) 584091
2 a 3 Rhagfyr - Helfa Gelf Nadolig - Prosiect stiwdios agored
gyda 33 o arlunwyr a chrefftwyr yn gwahodd y cyhoedd i ymweld â’u
stiwdios. Ewch i www.helfagelf.org i gael rhagor o wybodaeth
2 - 23 Rhagfyr - Paentiadau Bychain a Chrefftau’r Nadolig
- Academi Frenhinol Gymreig, Crown Lane, Conwy - Crefft gyfoes a phaentiadau
o fri o Gymru gyfan. Ffôn (01492) 593413
5 a 6 Rhagfyr - “It’s a Right Song and Dance”
- gan Llandudno Musical Productions yn Neuadd y Dref, Lloyd Street, Llandudno.
Drysau ar agor am 7pm, y sioe yn dechrau am 8pm. Tocynnau £5 i oedolion,
£3 i blant. Ffôn (01492) 879130
9 Rhagfyr - Ffair Nadolig - yng Nghanolfan Gadwraeth Natur Pensychnant,
Conwy. Cyfle i chi gael gwneud eich siopa Nadolig a helpu i gefnogi cadwraeth
natur leol 10am - 5pm. Ffôn: (01492) 592595
9 Rhagfyr - Addurniadau Nadolig yn Naturiol - Gwnewch eich addurniadau
Nadolig eich hunan o ddeunyddiau naturiol a gasglwyd yn lleol. Cyfarfod
am 3pm yng Nghanolfan Ymwelwyr y Gogarth, Llandudno. Bydd angen ffonio
i gadw lle (01492) 575200
9 Rhagfyr – Cyngerdd Nadolig Côr Cymysg Dyffryn Conwy
- Gloria Vivaldi a darnau o Messiah, yn Eglwys Sant Paul’s Church,
Craig-y-Don 7.30pm. Tocynnau £7. Ffôn: (01492) 572995
9 /10 a 16/17 Rhagfyr - Arddangosiad Optegol - Gwarchodfa Natur
RSPB Conwy 10am - 5pm. Ffôn: (01492) 584091
24 Rhagfyr - Noswyl Nadolig yng Nghonwy - Carolau yn Sgwâr
Lancaster am 6pm yna gorymdaith i Gastell Conwy i gyfarfod Santa am 7pm
a thân gwyllt ar ôl hynny
26 Rhagfyr - Clwb Llewod Llandudno Trochiad Blynyddol yn Môr
- Cofrestru yng Ngwesty St George’s Hotel, Llandudno erbyn 10.30am,
y ras ei hun i ddechrau am 11.30am. Ffurflenni noddi a chofrestru o Siop
Elusen y Llewod, Madoc Street, Llandudno. Ffôn: (01492) 876674
27 Rhagfyr - Ffair Deganau a Threnau Llandudno - yn Venue Cymru,
y Promenâd, Llandudno. 50 stondin yn gwerthu teganau, trenau model,
llyfrau trafnidiaeth, ac yn y blaen 10.30am - 3.30pm. Ffôn: (01492)
545053
